P-04-576  Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

 

Manylion:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu’r canllawiau i Awdurdodau Lleol o ran penaethiaid ysgolion yn gallu awdurdodi absenoldeb ar gyfer gwyliau teuluol yn ystod y tymor. Mae llawer o deuluoedd o gefndiroedd tlawd, na allant fforddio mynd ar wyliau yn ystod y tymor, oherwydd bod gwyliau tua 60% yn ddrutach yn ystod y cyfnod gwyliau. Hefyd, mae llawer o deuluoedd lle mae’r rhieni yn gweithio yn methu cymryd amser i ffwrdd yn ystod gwyliau’r ysgol. Gall gwyliau fod yn hynod o addysgiadol, a rhoi ymwybyddiaeth i’r plant o’r byd y maent yn byw ynddo.

Prif ddeisebydd   Bethany Walpole-Wroe

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 15 Gorffennaf 2014

Nifer y llofnodion: 1008 - – Casglodd ddeiseb gysylltiedig dros10,300 o lofnodion.